Beicio
Ein llwybrau beicio a gwybodaeth er mwyn cynllunio...
Mae ein coetiroedd a’n coedwigoedd yn gartref i rai o lwybrau beicio mynydd enwocaf Prydain.
Ceir llwybrau sy’n addas i ddechreuwyr hyd at feicwyr profiadol ac ac mae ardaloedd sgiliau lle gallwch chi ddatblygu eich sgiliau becio.
Mae ein holl lwybrau beicio mynydd:
I weld beth mae'r graddau'n eu olygu ewch i raddau llwybrau beicio mynydd.
Mae’r llwybrau beicio mynydd hyn wedi’u lleoli yn ein coetiroedd a’r gymuned leol sy’n gofalu amdanynt.
You can develop your riding skills at these places:
Fel gydag unrhyw chwaraeon newydd, mae gwella dy sgiliau ar feic mynydd yn mynd law yn llaw gydag ennill mwy o brofiad a hyder. Er ei bod hi’n bosib dy fod ti wedi gyrru beic ar darmac o’r blaen, fe all hi gymryd ychydig o amser i arfer gyda theimlad beicio oddi ar y ffordd.
Gall beicio mynydd fod yn weithgaredd peryglus sydd â chryn risg.
Dim ond os ydych chi’n deall pob risg sydd ynghlwm wrth y gweithgaredd y dylid ei wneud.
Dylid defnyddio’r canllawiau hyn ar y cyd â’ch profiad, eich greddf a’ch barn ofalus bob amser.
Peidiwch â dibynnu ar eraill
Er eich diogelwch
Ar y ffordd ac oddi arni
Mae’r fideo hwn yn egluro rheolau cwrteisi syml y dylech eu dilyn ar y llwybrau.
Cafodd ei gynhyrchu gan British Cycling ac mae’n cynnwys rhai o’n llwybrau beicio mynydd ni.
Mae British Cycling wedi cynhyrchu cyfres o fideos ar sgiliau beicio mynydd i helpu beicwyr i ddysgu technegau ar gyfer y llwybrau.
Ewch i wefan British Cycling i wylio’r fideos.
Gall plâu a chlefydau ddod am dro yn y mwd ar eich esgidiau neu ar olwynion eich beic.
Bydd dod gydag offer glân yn arafu ymlediad plâu a chlefydau coed ac yn cadw ein coedwigoedd yn iachach am hirach.
Gwyliwch ein fideo i ddarganfod sut y gallwch chi helpu i atal clefydau coed rhag lledaenu.
Weithiau mae’n rhaid cau neu ddargyfeirio llwybrau wrth inni wneud gwaith cynnal a chadw neu waith coedwig neu am resymau eraill fel tywydd gwael.
Rydyn ni’n rhoi manylion am gau a dargyfeirio llwybrau beicio mynydd ar wefannau’r coetiroedd neu’r canolfannau ymwelwyr perthnasol.
Rydyn ni hefyd yn gosod arwyddion sy’n sôn am gau neu ddargyfeirio ar ddechrau pob llwybr.
Gofynnwn yn garedig i chi ddilyn yr holl arwyddion dargyfeirio a chyfarwyddiadau gan ein staff ar y safle er eich diogelwch eich hun.
Efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cyn trefnu gweithgareddau ar y tir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dysgwch fwy am drefnu gweithgaredd neu ddigwyddiad.
Mae amrywiaeth o sefydliadau eraill yn darparu llwybrau beicio mynydd a chyfleusterau eraill fel gwasanaethau cario beiciau a disgyniadau ledled Cymru.
Ewch i wefan MBWales i weld manylion pob llwybr beicio mynydd yng Nghymru.