Cysylltu ag ymgyngoreion cyn i chi wneud cais am drwydded forol

Trafodwch eich gwaith arfaethedig ag ymgyngoreion cyn gynted â phosibl cyn i chi wneud cais.

Bydd ymgyngoreion yn eich cynghori ar sut i ddatrys unrhyw faterion cyn i chi gyflwyno eich cais i ni.

Byddwn yn gofyn i chi lanlwytho copïau o'ch gohebiaeth ag ymgyngoreion i'ch cais am drwydded forol.

Gyda phwy mae'n rhaid i chi gysylltu

Rhaid i chi gael cadarnhad na fydd eich gwaith arfaethedig yn peri risg i eraill.

Rhaid i chi gysylltu â'r ddau sefydliad isod:

Rhowch yr wybodaeth ganlynol iddynt:

  • lleoliad y gweithiau – ar fap môr neu ddelwedd lloeren/map lle bo modd
  • amseru a hyd y gwaith, ac a fydd yn digwydd gyda'r nos pan fo'r gwelededd yn isel
  • disgrifiad byr o’r gweithgareddau, gan gynnwys:
    • unrhyw sgaffaldiau neu offer trwm a ddefnyddir
    • a fydd y gwaith yn digwydd o'r tir neu'r dŵr
    • os byddwch yn defnyddio unrhyw gychod
  • unrhyw effeithiau posibl ar ddiogelwch o ran mordwyo (fel cau dyfrffordd neu leihau'r uchder clirio o dan bont) a pha fesurau lliniaru risg yr ydych yn bwriadu eu rhoi ar waith
  • a yw'r gwaith o fewn awdurdodaeth awdurdod harbwr statudol ai peidio – dylech wirio gyda'r harbwr/marina lleol a oes un

Gwaith tynnu neu reoli traeth

Os yw eich gwaith yn cynnwys unrhyw fath o waith tynnu (fel tyllau turio neu samplu gwaddodion) neu waith rheoli traeth, rhaid i chi gael cadarnhad na fydd unrhyw nodweddion archaeolegol yn cael eu heffeithio'n andwyol gan yr hyn yr ydych am ei wneud.

Yn ogystal â chysylltu â Thŷ'r Drindod ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, rhaid i chi gysylltu â’r canlynol:

Rhowch yr wybodaeth ganlynol iddynt:

  • lleoliad y gweithiau – ar fap môr neu ddelwedd lloeren/map lle bo modd
  • cyfesurynnau penodol mewn fformat lledred a hydred
  • amseru a hyd y gwaith
  • disgrifiad byr o'r gweithgareddau

Cael cyngor ar yr effaith bosibl ar yr amgylchedd morol

Ar gyfer gwaith hyd at 12 milltir forol, dylech drafod eich cynigion gyda thîm cynghori CNC [email protected]

Ar gyfer gwaith ar y môr (12 milltir forol neu fwy allan i'r môr), dylech ymgynghori â'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.

Gall y ddau asesu a oes unrhyw effaith bosibl ar yr amgylchedd morol.

Rhowch yr wybodaeth ganlynol iddynt:

  • lleoliad y gweithiau – ar fap môr neu ddelwedd lloeren/map lle bo modd
  • amseru a hyd y gwaith
  • disgrifiad byr o'r gweithgareddau
  • pwy fydd yn gwneud y gweithgareddau

Ymgyngoreion eraill

Yn dibynnu ar y gweithgareddau rydych am eu gwneud, a ble rydych am eu gwneud, efallai y byddwch am ymgynghori â sefydliadau eraill cyn i chi wneud cais am drwydded, gan gynnwys:

  • Awdurdod cynllunio lleol
  • Awdurdod harbwr lleol
  • Porthladd lleol
  • Siambr Morgludiant
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Cadw
  • Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
  • Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol
  • Ystad y Goron
  • Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
  • Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau Pysgotwyr

Os credwch y gallai eich prosiect ddenu diddordeb y cyhoedd, ymgysylltwch â chymunedau cyn i chi wneud cais am drwydded.

Taliadau ymgyngoreion

Gall rhai ymgyngoreion godi tâl am gyngor. Cysylltwch â nhw cyn gynted â phosibl fel eich bod yn ymwybodol o'u costau.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf